15 Rhagfyr 2015

 

Annwyl Syr/Madam

Ymgynghoriad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal gwaith craffu cyn deddfu ar y  Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft.

Ar 24 Tachwedd 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus y Bil drafft a'r dogfennau ymgynghori, ac fe wnaeth ddatganiad yn y Cyfarfod Llawn.

Cylch gorchwyl

Dyma’r cylch gorchwyl ar gyfer gwaith craffu cyn deddfu y Pwyllgor:

Ystyried y Bil drafft a'r dogfennau atodol, gan gynnwys y Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol (sy'n asesu costau a manteision y bwriadau polisi posibl a gynhwysir yn y Bil drafft).

Gwahoddiad i gyfrannu at y gwaith craffu cyn deddfu

Hoffai'r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo ei waith o graffu ar y Bil drafft. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Byddai'r Pwyllgor yn croesawu eich barn ar y cyfan neu unrhyw rannau o'r Bil drafft neu'r dogfennau ategol. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Efallai y bydd y Pwyllgor hefyd yn gwahodd nifer fach o dystion i roi tystiolaeth lafar i lywio ei waith craffu.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus.


Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCCLLL@cynulliad.cymru 

Fel arall, ysgrifennwch at:

Clerc y Pwyllgor,
Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol,         
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Bae Caerdydd,
CF99 1NA.

Dylai unrhyw sylwadau gyrraedd erbyn 21 Ionawr 2016.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r rhai sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr ddosbarthu atodedig anfon sylwadau.  Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at y gwaith craffu cyn deddfu o bosibl. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.assembly.wales/cy/help/privacy/Pages/help-inquiry-privacy.aspx. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Canllaw ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod.

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

­     Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir gan osgoi jargon diangen.

­     Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

­     Defnyddiwch Lucida Sans, sy’n ffont clir sans seriff.

­     Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

­     Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

­     Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu ddogfen PDF, yn enwedig llythyrau wedi’u llofnodi neu dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol hefyd.

Yn gywir,

Christine Chapman AC

Cadeirydd


Rhestr o ymgyngoreion

Llywodraeth Leol

Pob un o'r 22 Awdurdod Lleol

Cymdeithas Ysgrifenyddion y Cynghorau a Chyfreithwyr

Canolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth leol

Parciau Cenedlaethol Cymru

Cymdeithas Cynghorau Lleol Gogledd a Chanolbarth Cymru

Un Llais Cymru

Cymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru (SOLACE)

Cymdeithas Clercod Cynghorau Lleol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cydgysylltwyr Rhanbarthol

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

 

Y sector cyhoeddus

Awdurdodau Tân ac Achub Cymru

Pob un o Awdurdodau’r Heddlu

Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu Cymru

Yr holl Undebau

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Comisiynydd Plant Cymru

Y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy

Cynghorau Iechyd Cymuned

Y Comisiwn Etholiadol

ESYTN

Byrddau Iechyd

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru

Cyfoeth Naturiol Cymru

Ymddiriedolaethau’r GIG

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Conffederasiwn GIG Cymru

 

Y Trydydd Sector

Cynghrair Cymdeithas Parciau Cenedlaethol Cymru

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

 

Academaidd/ymchwil

Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cyhoeddus

Ysgol Fusnes Caerdydd

Canolfan Ymchwil Llywodraeth Leol a Rhanbarthol

Y Ganolfan Craffu Cyhoeddus

Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus

Y Sefydliad Materion Cymreig

Cyrff proffesiynol

CIPFA

Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (Cymru)

Cymdeithas Tirfeddianwyr Cefn Gwlad Cymru

Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru

Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol

 

Sefydliadau eraill

Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru

Comisiwn y Gyfraith

Cymru’r Gyfraith

 

Sefydliadau Cydraddoldeb

Rhwydwaith Gwrth-dlodi Cymru

Sefydliad Bevan

Cyngor Gofal Cymru

Cymdeithas yr laith Gymraeg

Cymru Yfory

Anabledd Cymru

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru

Anabledd Dysgu Cymru

Mencap Cymru

Comisiynydd y Gymraeg